Visit Wales

TIC guidelines brand identity

Amlygodd arolwg ymwelwyr â Chanolfannau Croeso fod angen diweddaru'r Canolfannau, meithrin ymwybyddiaeth well o'u hadnoddau a gwneud pawb yn ymwybodol o'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig.

Penodwyd PGA gan Visit Wales i weddnewid delwedd brand y Canolfannau Croeso, gan ddatblygu cyfres o negeseuon i ddefnyddwyr, ar sail ymchwil cwsmeriaid a defnyddio delweddau cyfoes o Gymru. Y syniad oedd cyfleu neges 'dyma Gymru' yn yr holl Ganolfannau Croeso, ac y byddai'n gweithio mewn amrywiaeth o ganolfannau o wahanol faint. O ganlyniad i weithdai a drefnwyd, creom ystod o baneli negeseuon gyda delweddau wedi'u dewis yn ofalus. Mae'r lliw coch yn ategu logo'r ddraig werdd gorfforaethol a ddefnyddir ar gyfer Canolfannau Croeso yng Nghymru. Roeddem hefyd wedi darparu canllawiau brand cynhwysfawr ar gyfer arddangos a defnyddio'r holl ddeunyddiau.

Meddai Diana Edwards, uwch ddylunydd: ‘bydd defnyddio system fodiwlaidd o negeseuon a delweddau yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i Ganolfannau osod arddangosfeydd mewn ffenestri, ar silffoedd nwyddau ac ar reseli llenyddiaeth. Cafodd y brandio newydd hefyd ei ddefnyddio ar ffurflenni llety ac ar ddeunyddiau ysgrifennu a bydd yn cyfleu delwedd gydlynol newydd ar gyfer Canolfannau Croeso ledled Cymru ac yn cynnig gwasanaeth mwy gweladwy a diddorol i ymwelwyr’.

Visit Wales Astudiaethau achos

» Brand 

Back