Hefcw
Hefcw brand development
Roedd gan ccauc logo ond nid brand ac fel rhan o adolygiad cyfathrebiadau roeddent eisiau datblygu ymagwedd newydd at ddyluniad eu gwefan, eu llenyddiaeth a'u cyfathrebiadau marchnata. Penodwyd PGA i wneud ymchwil i safle brand ccauc ac i'w ddatblygu, ac i lunio canllawiau ar gyfer eu deunyddiau marchnata.
Drwy gyfres o weithdai mewnol ac allanol a chyfweliadau â thrawstoriad o dîm ccauc ar bob lefel ac ar draws pob swyddogaeth, datblygom safle brand ccauc, 'buddsoddi mewn rhagoriaeth' a set o werthoedd brand i yrru'r sefydliad yn ei blaen. Datblygwyd canllawiau dylunio brand clir ynglyn â defnydd a safle'r enw, math o ffont, lliwiau a chymwysiadau dwyieithog ar gyfer print, hysbysebu, a chyfryngau'r we a'r sgrin. Aethom ymlaen i ddatblygu cymwysiadau ar gyfer hysbysebu, y we a chyfryngau digidol, llenyddiaeth, adroddiadau, deunydd ysgrifennu, systemau arddangos ac arwyddion swyddfa.
Roedd ccauc yn falch iawn â'r brand a'r hunaniaeth a grewyd gan PGA ac erbyn hyn mae ganddynt y system gywir yn ei lle i wella a datblygu eu sefydliad.
Hefcw Astudiaethau achos
» Brand » Print

