Brecon Carreg
Brecon Carreg website
O'i ddechrau ym 1978 yn ddiwydiant cartref mewn ysguboriau wedi'u trawsnewid ar fferm Llwyndewi, mae Brecon Carreg wedi tyfu'n brif brand o ddwr mwynol naturiol Cymru yn y DU. I sicrhau bod eu masnach, eu cwsmeriaid sy'n ddefnyddwyr a busnes newydd yn cael gwybod y diweddaraf am eu cynnyrch a newyddion y cwmni, datblygom wefan sydd â golwg ffres newydd iddi. Mae'r safle'n cynnwys system rheoli cynnwys y gallai'r cleient ei defnyddio i sicrhau bod y cynnwys diweddaraf yn ymddangos. Mae'r wefan newydd yn cynnwys animeiddio, ffurflen ymholi am gynnyrch a diagram hidlo dwr wedi'i animeiddio, sy'n dangos y broses o'r cwmwl glaw i'r botel.
Dywedodd Geraint Llewellyn, datblygwr gwe: ‘I ddarparu cyfathrebiadau brand parhaus i Brecon Carreg roeddem wedi datblygu templed e-hysbysiad i'r tîm marchnata ei ddiweddaru ac ymgyrchoedd post targedig a chystadlaethau ar gyfer masnach a defnyddwyr yn rheolaidd Yn y ddau fis cyntaf ers lansio'r ymgyrch, mae ymwelwyr â'r wefan wedi cynyddu 40% gan gynnwys ymwelwyr tramor – mae'r cleient yn arbennig o falch bod eu hymwybyddiaeth brand ar-lein yn gweithio iddynt, nid yn unig yng Nghymru ac yn y DU ond ymhellach i ffwrdd hefyd’.
» Y We

