DonateWales

'tell a loved one' campaign

‘Mae 4 teulu ymhob 10 yn gwrthod caniatáu i organau eu hanwyliaid gael eu defnyddio, yn aml gan nad oeddent yn ymwybodol o’u dymuniadau’. Arweiniodd y ffaith hon ynghyd â diffyg rhoddwyr organau yng Nghymru at lansiad yr ymgyrch “Dywed wrth rywun agos’. Defnyddiwyd yr ymgyrch hon a arweiniwyd gan bobl enwog i berswadio cymaint o bobl â phosibl i ymuno â’r gofrestr a hefyd i drafod eu dewis gyda’u hanwyliaid. 

Dim ond dechrau’r ymgyrch fawr yn y cyfryngau torfol oedd creu’r brandio ar gyfer yr ymgyrch ‘Dywed wrth rywun agos. Creodd a chynhyrchodd PGA fyrddau poster yn cynnwys Colin Jackson. Crëwyd a ffilmiwyd tair hysbyseb deledu wahanol. Roedd y rhain i gyd yn cynnwys deg o bobl enwog a ffilmiwyd ymhob math o leoedd o safle seindorf ym Mharc Aberdâr i sinema breifat yn Covent Garden, Llundain.

Cynhyrchwyd taflenni a stondinau arddangos ar gyfer y lansiadau. Datblygwyd ffyn lolipop enfawr a phecynnau cyfryngau er mwyn esbonio’r ymgyrch. Datblygwyd nwyddau gan gynnwys crysau T, bathodynnau a sticeri. Mae gwefan Donate Wales yn cael ei diweddaru’n gyson ac maent yn caniatáu i e-gardiau cael eu hanfon er mwyn annog pobl i gofrestru. 

www.donatewales.org

» Brand  » Print  » Hysbysebu 

Back