Gwefan Clwb Busnes Caerdydd
Cardiff Business Club
Gofynnwyd i Peter Gill and Associates adeiladu gwefan newydd ar gyfer Busnes Caerdydd er mwyn dechrau eu tymor 2008 / 09. Nid y bwriad oedd cael safle gwybodaeth yn unig fel eu hen safle; ond roedd yn rhaid ei gynllunio fel bod y clwb yn gyfredol ac er mwyn gwneud rheoli’r clwb yn dasg llawer yn haws.
Cynlluniodd ac adeiladodd PGA safle sy’n caniatáu i aelodau presennol ac aelodau posibl y dyfodol ymuno neu adnewyddu eu haelodaeth ar-lein. Gellir hefyd defnyddio adnodd i ddiweddaru manylion cyswllt aelodau ar unrhyw adeg drwy ddull mewngofnodi diogel. Gall aelodau archebu lle mewn digwyddiadau yn ystod y tymor a gallant hyn yn oed nodi unrhyw ofynion dietegol.
Mae rhan ôl y wefan yn galluogi gweinyddwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf yr holl aelodau a hefyd i reoli nifer y lleoedd sydd ar gael ymhob digwyddiad. Gallant agor a chau’r archebu hefyd. Ceir y gallu hefyd i allfudo rhestr o westeion a chynhyrchu rhestr o bobl sy’n aros.
Mae Clwb Busnes Caerdydd wrth eu bodd gyda’u safle newydd a defnyddir y safle er mwyn trefnu digwyddiad neu ymuno â’r clwb. Er mwyn ei weld neu er mwyn ymaelodi ymwelwch â www.cardiffbusinessclub.org
» Brand » Print » Y We

