Bwrdd yr Iaith Gymraeg
mae gen ti ddewis...
Bwriad yr ymgyrch ddwyieithog hon oedd annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg ar ddwy lefel:
(1) Hyrwyddo’r gwasanaethau yn y Gymraeg a gynigir gan gyrff cyhoeddus / sefydliadau penodol (2) Ymgyrch ‘emosiynol’ sy’n symbylu’r meddwl sy’n edrych ar berthynas siaradwyr Cymraeg gyda’r iaith neu eu defnydd o’r iaith.
Comisiynwyd PGA i greu a datblygu’r brand ‘mae gen ti ddewis...’, a oedd yn cynnwys hysbysebion teledu, fersiynau Cymraeg a dwyieithog gyda chyfnodau 40 eiliad ar ITV Wales ac S4C. Yn ogystal â hysbysebion sinema, stondinau baner yng nghynteddau sinemâu, a phecyn offer llawlyfr brandio.
» Brand » Print » Hysbysebu

